Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-11-12
CLA142
Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r
Gorchymyn hwn yn darparu, at ddibenion Rhannau 2 a 3 o Fesur Iechyd
Meddwl (Cymru) 2010, na chaiff gwasanaethau cymorth iechyd meddwl
sylfaenol lleol sydd ar gael mewn ardaloedd awdurdod lleol penodol
eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn yr ardal
awdurdod lleol honno.
Mae’r
gorchymyn yn darparu ymhellach y caiff gwasanaethau yn Lloegr, yr
Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i wasanaethau iechyd
meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru eu hystyried yn wasanaethau
iechyd meddwl eilaidd at rai dibenion yn Rhan 3 o’r
Mesur.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd
unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog
21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
[Ni nodwyd
unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog
21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.]
NEU
[O dan Reol
Sefydlog 21.3.(ii) gwahoddir y pwyllgor i ystyried a ddylai’r
Cynulliad roi sylw arbennig i’r offeryn hwn gan ei fod yn
codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o
ddiddordeb i’r Cynulliad.
- Mae Rhan 2
o’r Mesur yn cynnwys gofynion mewn perthynas â chydlynu
gofal a chynllunio gofal a thriniaeth. Mae Rhan 3 o’r Mesur
yn galluogi oedolion cymwys sydd wedi cael eu rhyddhau o
wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i atgyfeirio eu hunain yn
ôl i wasanaethau eilaidd yn uniongyrchol os ydynt yn credu
bod eu hiechyd meddwl yn gwaethygu.
- Mae Erthygl
3 o’r Gorchymyn yn golygu gwahardd unrhyw wasanaeth neu
driniaeth a nodwyd ac sydd ar gael fel rhan o wasanaeth iechyd
meddwl sylfaenol lleol mewn ardal awdurdod lleol o dan Ran 1
o’r Mesur o ofynion Rhannau 2 a 3 o’r
Mesur.
- O ganlyniad,
ni fydd angen i ddarparwyr gwasanaeth (byrddau iechyd lleol ac
awdurdodau lleol) benodi cydlynwyr gofal neu ddarparu cynlluniau
gofal a thriniaeth i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau
neu driniaeth a ystyrir yn wasanaethau cymorth iechyd meddwl
sylfaenol lleol mewn ardal awdurdod lleol. Canlyniad arall yw na
fydd hawl gan unigolyn sydd wedi cael ei ryddhau o wasanaethau a
ddarperir fel rhan o wasanaeth cymorth iechyd sylfaenol lleol i
gael ailasesiad.
- Mae’r
Gorchymyn yn ymestyn hawl y rhai sy’n gymwys i gael asesiad o
dan Ran 3 o’r Mesur i bobl sydd wedi cael gwasanaethau iechyd
meddwl eilaidd (sy’n cyfateb i’r rhai a ddarperir yng
Nghymru) yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
8 Mai
2012